Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
CYPE(4)-29-14 – Papur 1
Ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel
Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad ar nifer o feysydd lle mae datblygiadau arwyddocaol wedi eu cyflawni

1.  Camau cynnar gweithredu  ‘Ailysgrifennu’r dyfodol’

Gwaned dechreuad da er pan lansiwyd y rhaglen ym Mehefin 2014, o ran cychwyn gweithredu yn ogystal â sefydlu trefniadau llywodraethu.

Trefniadau llywodraethu

Mae’r trefniadau llywodraethu wedi eu sefydlu a’u cyhoeddi fel rhan o ddogfen yr Amserlen[1]. Maent wedi eu cynllunio ar gyfer hwyluso gwaith draws-adrannol a rhyng-adrannol; canfod risgiau ac anawsterau yn gynnar; ac ystyried ar y cyd y ffordd gyflymaf i gyflawni’r canlyniadau. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf y Grŵp Cyfeirio Mewnol (GCM) a Bwrdd y Rhaglen yn gynnal ym mis Medi. Yn ei gyfarfod nesaf ar 18 Hydref, bydd y Bwrdd yn ystyried:

·         y cynnydd o ran gweithredu’r rhaglen erbyn hynny, ac unrhyw risgiau;

·         canfyddiadau adroddiad gwerthuso’r flwyddyn gyntaf ar y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD);

·         y fframwaith canlyniadau a’r trefniadau ar gyfer monitro’r rhaglen; a’r

·         cynllun cyfathrebu ar gyfer y rhaglen.

Mae Panel ymarferwyr hefyd yn cael ei sefydlu, i ddarparu adborth uniongyrchol ar effaith y rhaglen o fewn yr ysgolion.

Bydd y fframwaith canlyniadau yn pennu’r trefniadau ar gyfer olrhain hynt y gweithredu o fewn y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a’r cynnydd tuag at gyrraedd y canlyniadau a ddymunir. Bydd y fframwaith hefyd yn darparu ‘llinell welediad’ eglur, rhwng  canlyniadau Ailysgrifennu’r Dyfodol, Cymwys am Oes[2] a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (CGTT).Bydd y prif ddangosyddion yn cynnwys y rheini o CGTT sy’n ymwneud â chanlyniadau cyrhaeddiad addysgol disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim  (cPYaDd) yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 4. Mae’r Pwyllgor eisoes wedi clywed tystiolaeth gan y Comisiynydd Plant ac eraill i’r perwyl y dylai Llywodraeth Cymru fonitro llesiant cymdeithasol ac emosiynol disgyblion ochr yn ochr â’u cyrhaeddiad addysgol.  Mae swyddogion yn gweithio i geisio canfod a fydd modd cynnwys dangosydd llesiant yn y fframwaith.

Bydd yr GCM a Bwrdd y Rhaglen yn cyfarfod eto yn Chwefror i ystyried data cyrhaeddiad addysgol 2014, ar gyfer y  disgyblion (cPYaDd) a’r rhai sy’n anghymwys (aPYaDd), ac ystyried y camau gweithredu posibl ar gyfer  2015-16. Bydd y ddau grŵp yn cyfarfod drachefn yn Ebrill, i bennu’r cynlluniau terfynol ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2015-16. Cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol cyntaf gan Fwrdd y Rhaglen ym Mehefin 2015.

Diweddariad ar y cynnydd o ran camau gweithredu sydd yn y rhaglen

Cyflwynwyd diweddariad ar y cynnydd a wnaed i Fwrdd y Rhaglen ym mis Medi. Roedd yr holl weithredu yn mynd ymlaen yn unol â’r amserlen ac eithrio un neu ddau o fân achosion lle bu oedi (am 1 mis) cyn cyhoeddi canllawiau a deunyddiau. Roedd y camau allweddol a gyflawnwyd hyd hynny yn cynnwys y canlynol:

·         Ymgysylltu â’r teulu a’r gymuned: Mae pecyn cymorth wedi ei baratoi mewn drafft, i gynorthwyo ysgolion i ymgysylltu â theuluoedd ac â’u cymunedau. Drafftiwyd  ‘catalog’ hefyd, o’r rhaglenni yn y trydydd sector a’r sector preifat y gall ysgolion fanteisio arnynt.  Mae’r ymgyrch  Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref eisoes ar droed.

·         Y blynyddoedd cynnar (0 i 7):Gwnaed cynnydd da yn y gwaith ar Fframwaith Datblygu ac Asesu'r Blynyddoedd Cynnar. Yn ystod yr haf hefyd, cwblhawyd adolygiad o’r holl drefniadau ar gyfer pontio cyfnodau, allan o Dechrau’n Deg ac i mewn ac allan o’r Cyfnod Sylfaen. Mae Hwb+ ar gael i 99% o’r ysgolion, ac ym Medi eleni roedd 85% o’r ysgolion eisoes wedi cael hyfforddiant.

·         Dysgu ac addysgu o safon uchel: Mae Rheoliadau newydd ar y Cynlluniau Datblygu Ysgol yn cael eu cyhoeddi’n gynharach na’r bwriad gwreiddiol. Mae Pecyn Dysgu hefyd wedi ei baratoi mewn drafft, i helpu’r ysgolion i ddeall a lliniaru effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Defnyddir y pecyn hwn ar gyfer y  Graddau Meistr mewn Ymarfer Addysgol.

·         Disgwyliadau a dyheadau uchel: Mae paratoadau ar droed i roi ar waith y dull newydd o nodi  achosion yn gynnar ac olrhain cyrchfannau pobl ifanc; ac mae’r awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau darparu Gweithwyr Blaen ar gyfer pobl ifanc mewn perygl o beidio â chael addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

2.  Canllawiau arfaethedig ar Ymgysylltu â Rhieni

Mae’r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth o nifer o ffynonellau  ynglŷn â phwysigrwydd ymgysylltu â rhieni /teuluoedd er mwyn gwella’r canlyniadau i blant  o aelwydydd incwm isel, ac ynglŷn â phwysigrwydd gwaith aml-asiantaethol rhwng ysgolion ac asiantaethau eraill yn y gymuned. Yn Ionawr 2015 byddwn yn cyhoeddi pecyn cymorth teulu a chymuned ar gyfer ysgolion.

Mewn ysgolion rhagorol, mae’r ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn mynd yn llawer pellach na dosbarthu llythyrau a gwahodd rhieni i’r nosweithiau agored: gwneir ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn thema ganolog, a gaiff ei wedi gwreiddio yn ethos yr ysgol a’i mynegi yn eglur yn y cynlluniau a’r targedau. Mae’r pecyn yn cydnabod bod sicrhau cyswllt rhagorol â theuluoedd a’r gymuned yn her wirioneddol i rai ysgolion. Cynlluniwyd y pecyn i ddarparu cymorth tra ymarferol ac i gydweddu â’r Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol. Rydym yn datblygu ‘cynllun gweithredu’ i annog cyrff llywodraethu i ddefnyddio’r adnoddau hyn, ac i sicrhau bod Cynghorwyr Herio a Chonsortia Rhanbarthol yn deall yn eglur eu swyddogaeth o hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd ac â’r gymuned. Bydd Pecyn Dysgu Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol ar Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn, 2015.

Mae’r ymgyrch Addysg yn Dechrau yn y Cartref[3], a anelir at rieni a gofalwyr, yn tynnu sylw at y pethau syml y gall pob teulu eu gwneud, ac a allai wneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant plant yn yr ysgol  – megis pennu amseroedd gwely rheolaidd, dangos diddordeb yn yr hyn y mae plant wedi ei ddysgu yn yr ysgol, a holi ynghylch gwaith cartref.

Rydym  yn adolygu’r modd yr adlewyrchir y cyswllt â rhieni mewn mesurau o berfformiad ysgolion[4]. Mae arolygiadau Estyn eisoes yn asesu’r modd y mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, asiantaethau allanol a’u cymuned.  Er mwyn atgyfnerthu hyn rydym yn cydweithio ag Estyn i baratoi canllawiau atodol ar gyfer arolygwyr.  Mae’r Rheoliadau newydd ynghylch Cynlluniau Datblygu Ysgol newydd yn pennu bod rhaid i bob CDY newydd roi manylion am y modd y bydd y corff llywodraethu yn amcanu i gyrraedd y targedau gwella ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol trwy gydweithio (a) gyda disgyblion yn yr ysgol a’u teuluoedd a (b) gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn y gymdogaeth y lleolir yr ysgol ynddi.

Mae’r Pwyllgor wedi clywed yr argymhelliad gan yr Athro Egan am nod barcut sy’n addo pa raglenni trydydd sector y gall ysgolion fanteisio arnynt i atgyfnerthu eu hymgysylltiad â rhieni a gofalwyr. Yn Ionawr 2015, byddwn yn cyhoeddi catalog ar gyfer ysgolion o’r rhaglenni trydydd sector a sector preifat[5] sydd wedi profi eu heffeithiolrwydd ar gyfer gwella canlyniadau addysgol plant o gefndiroedd difreintiedig, sydd hefyd ar gael i ysgolion yng Nghymru, ac sy’n gymwys ar gyfer gwariant GAD. Mae ymgysylltu â theuluoedd yn thema allweddol mewn nifer o’r rhaglenni yn y catalog. Un ohonynt yw rhaglen “3As” yr elusen “Achievement for All”. Rydym eisoes wedi comisiynu addasiad o’r rhaglen honno ar gyfer y cyd-destun Cymreig, a byddwn yn ei hyrwyddo fel buddsoddiad addas ar gyfer GAD[6].

Costau sy’n gysylltiedig ag addysg ac yn rhwystro ymgysylltu â rhieni

Mae’r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth o nifer o ffynonellau  ynglŷn â’r costau sy’n gysylltiedig ag addysg. Rydym yn cydnabod y gall costau ysgogi pryder arwyddocaol ymhlith rhieni, a hyd yn oed ynysu a dwyn anfri ar y plant hynny, na all eu teuluoedd fforddio costau o’r fath.

 

Fel y dywedasom eisoes mewn tystiolaeth[7] ni chaiff ysgolion godi tâl am  unrhyw addysg neu deithiau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn ystod oriau ysgol. Pan gynigir gweithgaredd y tu allan i’r diwrnod ysgol ac nad yw’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol, caiff ysgolion godi tâl os, ac yn unig os, caniateir hynny o dan bolisi’r corff llywodraethu. Caiff disgyblion y mae’u rhieni yn cael rhai budd-daliadau penodol (gan gynnwys y Credyd Cynhwysol) hawlio bwyd a llety am ddim ar unrhyw deithiau preswyl. Y corff llywodraethu sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhieni yn gyfarwydd â pholisi’r corff llywodraethu ar godi tâl.

Yn unol â’r cais a wnaed gan y Pwyllgor, bydd y pecyn cymorth arfaethedig i ysgolion ar ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned (yn ogystal â’r Pecyn Dysgu yn ddiweddarach) yn cyfeirio at y costau hyn fel un o’r ffactorau posibl sy’n rhwystro ysgolion rhag ymgysylltu â theuluoedd. Un o amcanion y cynllun gweithredu yw sicrhau y caiff y neges hon ei chyfleu hefyd i’r cyrff llywodraethu.  Ni fydd y gweithgareddau craidd ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd, a hyrwyddir yn ein pecyn cymorth arfaethedig, yn cynnwys unrhyw gostau y bydd gofyn i rieni eu talu. Yn sylfaenol, bydd y gweithgareddau craidd hyn yn ymwneud ag arweinyddiaeth a chynllunio o fewn yr ysgol a’r modd y bydd  yr ysgol yn annog cyfathrebu cilyddol rhyngddi a rhieni a gofalwyr.

Yn gynnar yn 2015 byddwn yn cyhoeddi canllawiau ac adnoddau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi,  a fydd ehangu’r cwricwlwm ac yn denu disgyblion i ddysgu ac i ymuno ym mywyd yr ysgol, ond a fydd hefyd yn cynnwys costau (am deithiau, cyfarpar chwaraeon, ffioedd cerddoriaeth, clybiau ar ôl ysgol etc) y disgwylir i’r rhieni, yn aml, eu talu. Byddwn yn darparu tystiolaeth i’r ysgolion ynglŷn â’r mathau gorau o weithgareddau cyfoethogi ar gyfer gwella’r canlyniadau addysgol a llesiannol i blant o gefndiroedd difreintiedig, ac yn datgan yn eglur pa rai sy’n gymwys ar gyfer gwariant GAD. Gan ddefnyddio dull y Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol, byddwn yn cynorthwyo ysgolion i gynnal archwiliad o’u hymarfer cyfredol ac i  ddatblygu cynllun gweithredu. Byddwn yn defnyddio’r canllawiau hyn fel cyfle pellach i gyfeirio at gostau addysg.

Bydd Pecyn Dysgu Graddau Meistr mewn Ymarfer Addysgol, ar ddeall a lliniaru effeithiau amddifadedd ar ganlyniadau addysgol[8], y bwriedir ei gyhoeddi yn ddiweddar yn 2014, yn cyfeirio at effeithiau costau addysg, a’r hyn y gellir ei wneud i liniaru’r effeithiau hynny.

3.  Dynodiadau cynnar ynglŷn ag effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion

Ar 22 Hydref cyhoeddwyd yr adroddiad Evaluation of the Pupil Deprivation Grant - Year 1 Report gan IPSOS Mori a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (SYDMGEC)[9]. At ei gilydd, roedd canfyddiadau’r adolygiad yn gadarnhaol:

·         mae’r prif ganfyddiadau yn dangos bod cyflwyno’r GAD wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn gweithgarwch i gynorthwyo disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Roedd mwy na’r hanner yn weithgarwch newydd, a’r gweddill yn weithgarwch blaenorol a oedd yn digwydd ar raddfa ehangach;

·         mae tystiolaeth o’r astudiaethau achos yn awgrymu bod GAD wedi achosi newid diwylliant mewn llawer o’r ysgolion. Gwnaed hynny  drwy ddyrchafu proffil y broblem a’r ymwybyddiaeth o’r ffordd y gall ysgolion fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol, a sut y dylid monitro effaith yr ymyriadau;

·         mae mwyafrif o’r ysgolion yn defnyddio tystiolaeth allanol wrth gynllunio sut i wario’r GAD, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodwedd amlwg yn y ffigurau a ddefnyddir;

·         canfyddiad yr athrawon yw fod GAD yn cael effaith gadarnhaol, yn enwedig o ran ymgysylltiad a llesiant disgyblion. Mae tystiolaeth o’r astudiaethau achos yn gwneud yn amlwg fod ymyriadau, y disgwylir iddynt gael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad a phresenoldeb, yn aml hefyd yn cael effaith ‘atodol’ o’r fath ar ymgysylltiad a  lles y disgyblion.

 

Mewn rhai meysydd, fodd bynnag, mae angen gwneud gwaith pellach; a gwnaed llawer o waith cynllunio eisoes i roi sylw  i’r canlynol:

 

·         Wrth dargedu  ymyriadau, mae ysgolion yn defnyddio diffiniad ehangach o amddifadedd. O blith yr holl ddisgyblion a gâi fudd o weithgareddau a gyllidid gan GAD, roedd 60% o’r disgyblion cynradd a 72% o’r disgyblion uwchradd naill ai’n ddisgyblion cPYaDd neu’n blant sy’n derbyn gofal. Dylid nodi, fodd bynnag, fod 9 o bob 10 ysgol yn defnyddio cyfran sylweddol o’u cyllidebau eu hunain i gynnal gweithgareddau GAD. Ar draws yr holl ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2012/13, roedd ymyriadau wedi eu cyllido 55% gan GAD / 45% gan gyllidebau ysgol eraill; ac ar draws yr holl ysgolion uwchradd, y gymhareb oedd 58% GAD / 42% cyllidebau eraill.  Mae hyn, felly, yn awgrymu nad yw’r ysgolion, o anghenraid, yn gwario arian GAD ar ddysgwyr nad ydynt yn gymwys.

·         Nifer fach o ysgolion sy’n datgan eu bod yn cynnal ymyriadau sy’n targedu rhieni (2% o’r cynradd a 4% o’r uwchradd). Fodd bynnag, roedd 62% o’r ysgolion cynradd a  72%  o’r uwchradd yn dweud bod eu hymyriadau a gyllidid gan GAD wedi cael effaith ganolig neu fawr ar rieni a gofalwyr. Roedd yr ymchwilwyr yn awgrymu y gallai hyn adlewyrchu’r ffaith nad oedd ysgolion yn ystyried bod ymgysylltiad rhieni yn ganolbwynt allweddol y gweithgaredd, hyd yn oed pan oedd yr ymyriadau’n cynnwys rhieni a gofalwyr.  Yn ogystal, oherwydd mai gweithgareddau a gyllidid gan GAD yn unig a gynhwysid yn y gwerthusiad, gallai’r ysgolion yn hawdd fod yn cynnal gweithgareddau cyswllt rhieni eraill, a oedd naill ai’n ddi-gost neu’n cael eu cyllido o rannau eraill o gyllideb yr ysgol.

·         Yn yr un modd, ychydig o ysgolion a gyfeiriodd at gyswllt â’r gymuned fel un o ganlyniadau eu gweithgareddau, er bod y bartneriaeth CyG leol wedi cymryd rhan mewn bron draean o’r ymyriadau a ddigwyddodd  mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

O ran effaith y GAD ar gyrhaeddiad addysgol, ni allai’r adroddiad ystyried dim ond y data cyrhaeddiad disgyblion o 2013, un flwyddyn yn unig ar ôl cyflwyno’r GAD. Yn 2013, roedd cyrhaeddiad y disgyblion cPYaDd wedi gwella, gan barhau tuedd y blynyddoedd blaenorol. Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng 2012 a 2013 yng nghyfradd y gwelliant. Fodd bynnag, mae’r ymchwilwyr yn cydnabod (fel y gwnaeth yr ymchwilwyr yn ystod y cyfnod cyfatebol o’r gwerthusiad o’r Premiwm Disgybl) fod blwyddyn yn amser rhy fyr i ganfod unrhyw  effaith fesuradwy ar gyrhaeddiad addysgol o ganlyniad i’r grant.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau’r argraffiad nesaf o’r  Academic achievement and entitlement to free school meals statistics (a fydd yn defnyddio data 2014) yn gynnar yn ystod 2015[10].

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor eisoes y bydd  y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cynyddu yn 2015/16 i £1,050 am bob disgybl sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac yn codi drachefn i £1,150 ar gyfer 2016/17. Mae hyn yn ymateb i’r bryderon a godwyd gan ein Heiriolwr Codi Cyrhaeddiad, Syr Alasdair MacDonald, a adroddodd yn ddiweddar fod ansicrwydd ynghylch cyllid yn llyffethair allweddol, a oedd yn rhwystro ysgolion rhag cynllunio’n effeithiol i fuddsoddi’r GAD. Rydym yn cydweithio’n agos gyda’r consortia i sicrhau y caiff y grant ei fuddsoddi’n effeithiol, drwy adeiladu ar ganfyddiadau’r adroddiad gwerthuso, a diweddaru’r canllawiau GAD.

Mae’r GAD yn cael ei estyn hefyd i gynnwys plant 3 a 4 blwydd oed. Rydym yn cydnabod y posibilrwydd  y bydd angen trefn wahanol ar gyfer y grŵp oedran hwn, ac rydym yn gweithio i ddatblygu dull effeithiol o ddosbarthu’r grant, ynghyd â chanllawiau perthnasol a fydd yn cyfeirio darparwyr blynyddoedd cynnar at yr ymyriadau mwyaf effeithiol.

4.  Rôl y rhaglen Her Ysgolion Cymru, o ran sicrhau canlyniadau addysgol i blant o aelwydydd difreintiedig

Rhoddwyd y rhaglen Her Ysgolion Cymru ar waith fesul cam yn yr ysgolion yn ystod mis Medi eleni. Bydd y fenter arloesol a chyffrous hon yn darparu hyd at £20m o gyllid, yn ogystal ag arbenigedd profedig, i gyflenwi pecyn cymorth a fydd wedi ei deilwra’n benodol ar gyfer anghenion y 40 o ysgolion uwchradd sy’n wynebu’r heriau mwyaf, ynghyd â’u clystyrau o ysgolion cynradd.

Mae Her Ysgolion Cymru yn cydnabod bod rhai ysgolion yn wynebu heriau unigryw, sy’n haeddu cymorth  ychwanegol a dwysach, y tu hwnt i’r hyn a ddarperir yn rhan o’r drefn arferol. Mae pob un o’r ysgolion “Llwybrau Llwyddiant” wedi penodi Cynghorydd Her Ysgolion Cymru, i ddarparu cymorth i’w ysgol ac i’w herio i wella ymhellach.

Bwriad y rhaglen yw canolbwyntio’n ddi-baid ar wella ansawdd yr addysgu, y dysgu a’r arweinyddiaeth. Mae Her Ysgolion Cymru yn rhoi pwyslais hefyd ar gydweithio’n effeithiol er mwyn cyrraedd canlyniadau sy’n gynaliadwy.

Mae llwyddiant Her Llundain (sef y ‘London Challenge’) wedi dangos bod y dull hwn yn un sy’n gweithio mewn gwirionedd. O blith y gwersi a ddysgwyd wrth werthuso Her Llundain, mae tair gwers arbennig o bwysig: yn gyntaf – mae ymyrryd yn gynnar yn allweddol, ac felly mae Her Ysgolion Cymru yn annog gweithio gyda’r clystyrau cynradd.

Yn ail – mae’r gwelliannau cynaliadwy hirdymor a geisir yn cymryd amser i’w cyflawni ac yn galw am greadigrwydd ac amynedd – newid sylfaenol sydd gennym mewn golwg, ac nid atebion byrdymor.

Yn olaf, llwyddodd Her Llundain i sefydlu’r ymdeimlad cyffredinol o bwrpas moesol, sef bod gan bob un o addysgwyr Llundain fuddiant yn addysg y plant – ni fydd yr ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn gyfrifol ar eu pen eu hunain am eu disgyblion – bydd y rhieni, y gymuned a’r ysgolion eraill i gyd yn ymuno hefyd yn y broses o wella.  

Gan fanteisio ar brofiad Heriau Llundain a Manceinion Fwyaf, bydd Her Ysgolion Cymru yn canolbwyntio ar bedair prif thema sef arweinyddiaeth; dysgu ac addysgu; y disgybl; a’r ysgol a’r gymuned, sy’n  gynnwys y rhieni neu ofalwyr.

Oherwydd y ffocws ar dorri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad, bydd llwyddiant cyffredinol yr Her yn cael ei fesur yn nhermau pa mor effeithiol y dyrchefir cyrhaeddiad y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim – gwneir hyn yn fwyaf amlwg drwy fesur cyrhaeddiad Lefel 2 disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ochr yn ochr â chyrhaeddiad Lefel 2 yr holl ddisgyblion. Bydd y mesur hwn yn ychwanegol at fesurau llwyddiant yr ysgolion Llwybrau Llwyddiant eu hunain.



[1] http://cymru.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/rewriting-the-future-schools/?lang=cy

 

[2] http://cymru.gov.uk/topics/educationandskills/allsectorpolicies/qualified-for-life-an-educational-improvement-plan/?lang=cy

[3] Cam Gweithredu YTG5 yn amserlen Ailysgrifennu’r Dyfodol                      

[4] Cam Gweithredu YTG8 yn amserlen Ailysgrifennu’r Dyfodol

[5] Cam Gweithredu YTG7 yn amserlen Ailysgrifennu’r Dyfodol

[6] http://www.afa3as.org.uk/

[7] Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc 6 Chwefror 2014.

[8] Cam Gweithredu BC3 yn amserlen Ailysgrifennu’r Dyfodol

[9] http://cymru.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-pupil-deprivation-grant/?lang=cy

[10] Sydd i’w gyhoeddi yn http://cymru.gov.uk/statistics-and-research/academic-achievement-free-school-meals/?lang=cy